Gwynt ar y Môr y Môr Celtaidd - Ymgynghoriad Perchnogaeth Gymunedol
Dweud eich dweud ar sut y gallai perchnogaeth gymunedol weithio
Rhannwch yr arolwg hwn gyda'ch teulu a'ch ffrindiau
Fel rhan o darged y DU tuag at gynhyrchu mwy o ynni gwyrdd ar gyfer dyfodol sero net, bydd proses dendro gystadleuol ar gyfer cyflwyno'r genhedlaeth nesaf o ynni gwynt ar y môr yn mynd rhagddi ar gyfer y Môr Celtaidd, oddi ar Gymru a De-orllewin Lloegr.
Mae gan Energy4All 25 mlynedd o brofiad ym maes tyfu a meithrin cwmnïau cydweithredol ynni cymunedol. Gan weithio mewn partneriaeth â datblygwyr gwynt ar y môr, Renantis (Falck Renewables gynt) a BlueFloat Energy, rydyn ni’n gweithio i ddylunio sut olwg fyddai ar ffermydd gwynt ar y môr dan berchnogaeth gymunedol yn y dyfodol. Hoffem fesur barn pobl Cymru a De-orllewin Lloegr ar ffermydd gwynt ar y môr dan berchnogaeth gymunedol.
Mae "perchnogaeth gymunedol" yn derm a all fod ag ystyron a goblygiadau amrywiol yn dibynnu ar y cyd-destun. Ar y cyfan, mae'n cyfeirio at asedau, adnoddau neu sefydliadau a berchnogir ac a reolir gan gymuned neu grŵp o unigolion sydd â buddiant neu ddiddordeb a rennir yn yr asedau hynny.
Yn y cyd-destun hwn, Perchnogaeth Gymunedol yw: Pan fydd unigolion yn penderfynu gweithio gyda'i gilydd o ddewis i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, lle gwneir penderfyniadau'n ddemocrataidd, lle y rhennir y berchnogaeth, gyda’r cyfan er mwyn cyflawni eu cyd-nodau ar gyfer ynni gwyrdd glanach, gwarchod yr amgylchedd a budd i'r gymuned leol.
Mae yna enghreifftiau lawer o gynlluniau ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth y gymuned ledled y DU. Yn aml, mae’r rhain ar ffurf Cymdeithas Budd Cymunedol, Cwmni Cydweithredol neu Fuddiant Cymunedol. Dyma rai enghreifftiau o fuddion cymunedol sy'n aml yn rhan ganolog o'r sefydliadau hyn: cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol lleol, trydan rhatach i drigolion lleol, mynediad at wybodaeth a gwaith gosod effeithlonrwydd ynni. Mae pob cynllun yn wahanol ond maen nhw i gyd wedi'u cynllunio gan yr aelodau sy’n pleidleisio drostyn nhw.
Yr holiadur hwn yw'r cam cyntaf wrth benderfynu sut y gallai ffermydd gwynt ar y môr dan berchnogaeth gymunedol edrych yn y dyfodol.